Cymru

Clefyd yr ysgyfaint yw un o’r tri chlefyd sydd yn lladd y mwyaf o bobl yng Nghymru. Mae un ym mhob pump o bobl wedi cael diagnosis o’r cyflwr ar ryw adeg yn eu bywyd.

Mae clefyd yr ysgyfaint yng Nghymru yn costio dros £500 miliwn. Hwn yw’r pedwerydd clefyd mwyaf costus.

Ystadegau allweddol

  • Asthma: Yng Nghymru, mae tua 314,000 o bobl wrthi’n cael triniaeth ar hyn o bryd: gan gynnwys 59,000 o blant.
  • Clefyd rhwystrol cronig yr ysgyfaint (COPD): 74,000 o bobl wedi cael diagnosis o’r cyflwr yng Nghymru.
  • Ffibrosis Idiopathig yr Ysgyfaint: 2,000 o bobl yn byw gyda’r cyflwr yng Nghymru.
  • Bronciectasis: yr amcangyfrif yw bod y cyflwr ar ryw un ym mhob mil o oedolion yng Nghymru.
  • Apnoea Cwsg Ataliol (OSA): amcangyfrifir bod o leiaf 13% o ddynion sy’n oedolion a 6% o ferched sy’n oedolion yn byw gydag Apnoea Cwsg Ataliol.
  • Llygredd aer: Mae tua 2,000 o bobl yng Nghymru yn marw cyn eu hamser oherwydd aer budr.

Ein gwaith

  • Rydym yn ymgyrchu dros roi blaenoriaeth genedlaethol i iechyd yr ysgyfaint ac ymladd dros Gymru ble gall pawb anadlu aer glân efo ysgyfaint iach.
  • Rydym yn codi proffil cyflyrau’r ysgyfaint yn y Senedd ac yn arwain y Grŵp Trawsbleidiol dros Iechyd yr Ysgyfaint. Mae hwn yn rhoi llwyfan i Aelodau o’r Senedd o bob plaid wleidyddol i drafod materion yn ymwneud ag asthma a sicrhau bod polisïau’r llywodraeth yn gweithio i wella’r gofal a’r gwasanaethau i bobl sydd ag asthma.
  • Buom yn gweithio gyda Llywodraeth Cymru i ddatblygu’r Cynllun Aer Glân ac rydym yn ymgyrchu dros Ddeddf Aer Glân ochr yn ochr â chydweithwyr Awyr Iach Cymru. Roedd pob plaid yn cefnogi Deddf Aer Glân yn eu maniffesto ac eto mae Llywodraeth Cymru yn oedi.
  • Rydym yn gweithio gyda ASH Cymru a phartneriaid eraill i ymgyrchu dros fuddsoddi mwy mewn rhoi’r gorau i ysmygu a chyfyngiadau eraill i gadw pobl ifanc yn ddiogel rhag tybaco. Buom yn llwyddiannus yn ein hymgyrch i gael Strategaeth Rheoli Tybaco newydd, gyda’r nod i lai na 5% o bobl fod yn ysmygu erbyn 2030.
  • Rydym wedi hyrwyddo rhaglen genedlaethol ar gyfer sgrinio’r ysgyfaint i’w chyflwyno ar draws Cymru.
  • Buom yn gweithio gyda Llywodraeth Cymru i ddatblygu a gweithredu Cynllun Cyflawni ar gyfer Iechyd Anadlol ac rydym bellach yn llywio’r cynllun nesaf.
  • Rydym yn gweithio gyda’r gymuned ffisiotherapi i hyrwyddo’r hawl i raglen adsefydlu fel bod gan bawb sydd â chyflwr ar yr ysgyfaint yr hawl i ryw fath o raglen adsefydlu ysgyfeiniol pan fydd ei hangen arnynt.

Gallwch weld y maniffesto ar gyfer Etholiad Cyffredinol diwethaf Cymru yma

Gallwch gysylltu â’r tîm yng Nghymru drwy ffonio 0300 222 5800