Cydweithio mewn partneriaeth
You can also read this section in English.
Ein partneriaid
Mae Asthma UK Cymru yn anelu at weithio gyda chymaint o bartneriaid â phosibl er mwyn gwella iechyd a lles y bobl sydd ag asthma yng Nghymru.
Rydym yn cadw mewn cysylltiad cyson â sefydliadau eraill sy’n cefnogi pobl sydd â chyflyrau meddygol hirdymor, er enghraifft, Sefydliad Prydeinig yr Ysgyfaint, Cymdeithas Siartredig Ffisiotherapi a Diabetes UK Cymru. Rydym yn chwilio am ffyrdd o gydweithio er mwyn rhoi cyflyrau hirdymor yn uwch ar yr agenda yng Nghymru.
Rydym yn aelodau o’r Gynghrair Cyflyrau Hirdymor (LATA) sy’n cynrychioli buddiannau pobl sydd â chyflyrau iechyd hirdymor. Yn ogystal â hyn, rydym ni hefyd yn aelodau o Gynghrair Anadlu Cymru (RAW) sy’n cyfarfod yn rheolaidd i drafod dulliau o fynd i’r afael â materion anadlu drwy gyfrwng gwaith sefydliadau unigol, rhannu profiadau, arferion da a rhannu gwybodaeth gyda chyrff sy’n gwneud penderfyniadau, megis Llywodraeth Cynulliad Cymru.
Digwyddiad sydd ar y gweill
Ym mis Gorffennaf 2010, byddwn yn mynychu cyfarfod y Gymdeithas Brydeinig ar gyfer Ymchwil yr Ysgyfaint (BALR) yn yr haf. Bydd y gynhadledd, 'Asthma: Genes, Environment and Cellular Mechanisms' yn cael ei chynnal yng Nghanolfan Dylan Thomas, Abertawe o 7-9 Gorffennaf. Bydd gwyddonwyr a chlinigwyr blaenllaw yn bresennol a bydd yn rhoi cyfle i Asthma UK Cymru lobïo ar ran y bobl hynny yng Nghymru sy’n dioddef o asthma.
Cysylltwch â ni
Os hoffech wybod rhagor am ein gwaith yng Nghymru, e-bostiwch Asthma UK Cymru, neu ysgrifennwch atom ni: Llawr Tri, Ty Eastgate, 35-43 Heol Casnewydd, Caerdydd CF24 0AB.

Follow us on Twitter
Find us on Facebook