Asthma UK Cymru

The Senedd building in Cardiff: home of the Welsh Assembly.Mae cyfraddau asthma yng Nghymru ymhlith yr uchaf yn y byd: mae dros 260,000 o bobl sydd â'r cyflwr yn byw yng Nghymru, gan gynnwys 55,000 o blant.

Mae 4,439 o bobl yng Nghymru yn cael eu derbyn i'r ysbyty gydag asthma bob blwyddyn, ac yng Nghymru y mae'r ganran uchaf o blant o dan 14 oed sy'n cael eu derbyn i'r ysbyty oherwydd asthma yn y DU.

You can also read this section in English.

Beth yw Asthma UK Cymru?

Sefydlwyd Asthma UK Cymru yn 2005, i gyd-fynd â datganoli gwleidyddol. Gwelsom fod Cymru'n datblygu ei systemau, ei strwythurau a'i blaenoriaethau ei hun ac y byddai bod â staff lleol yn galluogi'r elusen i weithio'n fwy effeithiol dros bobl y mae asthma arnynt yng Nghymru.

Mae ein gwybodaeth leol arbenigol yn ein helpu i:

  • deall y materion sy'n cyfrif i bobl yng Nghymru a gweld sut y gallwn helpu.
  • adeiladu partneriaethau â'r bobl a'r cyrff a all ein helpu ni i wneud gwahaniaeth.
  • parhau i fod â gwybodaeth arbenigol am y gwasanaeth iechyd yng Nghymru a gwybod sut i ddylanwadu arno.
  • gwneud yn si_r bod pobl y mae asthma arnynt yn cael eu cynrychioli yn y mannau lle gwneir penderfyniadau sy'n effeithio arnynt, yn enwedig yn Llywodraeth Cynulliad Cymru a Chynulliad Cenedlaethol Cymru


Dylanwadu ar Pholisi

Byddwn yn lobïo aelodau o'r Cynulliad Cenedlaethol a Llywodraeth Cynulliad Cymru ac yn cydweithio â phenderfynwyr eraill i gael amodau gwell i bobl sydd ag asthma a'u teuluoedd.



Cynllun Iaith Gymraeg

Mae Asthma UK yn gweithredu Cynllun Iaith Gymraeg, a baratowyd yn unol â Deddf yr Iaith Gymraeg 1993 ac a gymeradwywyd gan Fwrdd yr Iaith Gymraeg ar 16 Rhagfyr 2005.

Yn unol â'r cynllun hwn, bydd Asthma UK yn cynhyrchu llawer o'i gyhoeddiadau'n ddwyieithog. Darllenwch ragor am y rhain yn yr adran Cyhoeddiadau yn is i lawr y dudalen hon.



Hyfforddiant i ofalwyr y blynyddoedd cynnar: Yn effro! i Asthma

Alert! to Asthma logo.

Rhoddwyd y rhaglen hon ar brawf yn yr Alban, a bu mor llwyddiannus a phoblogaidd fel ei bod yn awr yn cael ei rhyddhau fesul cam yng Nghymru. Mae pecyn dwyieithog ar gael a bydd sesiynau'n cael eu rhedeg yn Gymraeg a Saesneg.

Am ragor o wybodaeth am Yn effro! I asthma e-bostiwch: CShorney@asthma.org.uk neu ffoniwch 02920 435400.



Cyhoeddiadau

Yn unol ag ymrwymiad Asthma UK Cymru i'r Cynllun Iaith Gymraeg, bydd Asthma UK yn cynhyrchu llawer o'i gyhoeddiadau'n ddwyieithog. Hyd yma, mae'r canlynol ar gael yn Gymraeg/Saesneg: Adroddiad 'Chwarter Miliwn o Leisiau', Siarter y Gweithle, y Siarter Asthma, Cerdyn Pwl o Asthma, posteri Prysur ac Egnïol i ysgolion a'r pecyn rhieni, ‘Ar ôl eich pwl o asthma', ac 'Ar ôl i'ch plentyn gael pwl o asthma'.

Gallwch lawrlwytho rhai o'r rhain trwy’r cysylltiadau isod. Gellir archebu'r lleill yn ein hadran gyhoeddiadau ar lein, neu trwy ffonio ein Tîm Cefnogwyr a Gwybodaeth ar 020 7786 5000.


The prevalence of asthma in Wales is among the highest in the world, with 260,000 people living with the condition and the rate of hospital admissions for adults 28 per cent more than anywhere else in the UK. March 2005'Chwarter Miliwn o Leisiau'
Adroddiad yw 'Chwarter Miliwn o Leisiau' ar sail ymchwil helaeth gan Asthma UK, ac mae'n dangos faint y mae asthma mewn gwirionedd yn effeithio ar bobl yng Nghymru ac yn sôn am safon y gofal y maent yn ei dderbyn. Fe'i cyhoeddwyd ym mis Mawrth 2005.



Siarter y Gweithle
Mae 'Asthma yn y Gwaith – Eich Siarter’ yn gosod allan ddeg o argymhellion i leihau effaith asthma yn y gweithle, ac yn rhoi gwybodaeth am y pethau sy'n sbarduno asthma ac am y symptomau, beth i'w wneud os bydd rhywun yn cael pwl o asthma, ynghyd â chanllawiau i gyflogwyr ar wneud yr amgylchedd gwaith yn lle sy'n ystyriol o asthma.


Ariannu ymchwil

Researchers in lab

Mae Asthma UK yn ariannu rhaglen ymchwil o safon fydeang ar draws y Deyrnas Unedig. Hyd yma, mae'r elusen wedi buddsoddi tua £50 miliwn mewn ymchwil i ddeall mwy am asthma a lleihau ei effaith ar fywydau pobl. Mae hyn yn cynnwys ariannu dau Athro Prifysgol Asthma UK, pedwar o Gymrodyr Ymchwil ac amrywiaeth eang o brosiectau ymchwil unigol ledled y Deyrnas Unedig.

Ym mis Hydref 2008, dechreuodd ymchwilwyr yng Nghymru ar brosiect ymchwil arloesol i ddatblygu triniaethau newydd ar gyfer asthma.

Mae'r Athro Mark Baird ym Mhrifysgol Cymru Bangor yn cydweithio ag ymchwilwyr yng Ngwlad Belg i greu fersiynau diwygiedig o folecylau diciâu (TB) naturiol. Mae cysylltiad rhwng bod wedi'ch heintio â'r diciâu a llai o risg o ddatblygu asthma, ac mae'r Athro Baird yn gobeithio harneisio priodweddau buddiol molecylau'r diciâu i greu triniaethau newydd ar gyfer asthma.

Cewch wybod rhagor yn


Cymryd rhan

Mae angen gwirfoddolwyr o bob rhan o Gymru ar Asthma UK Cymru a all helpu gyda'n gwaith. Os gallwch chi gynnig ychydig o amser mae gwahanol ffyrdd o gyfrannu.

Allwch chi rannu eich stori chi â'r cyfryngau neu â grwpiau lleol? Mae arnon ni angen pobl a fyddai'n barod i siarad am eu profiad o asthma â newyddiadurwyr, a siarad am asthma yn gyhoeddus.


Gweithio â'r cyfryngau

Gweithiwn i godi proffil asthma yn y cyfryngau yng Nghymru ac i roi'r wybodaeth ddiweddaraf i weithwyr iechyd proffesiynol ac i bobl y mae asthma arnynt am y datblygiadau diweddaraf mewn gofal asthma ac ymchwil i asthma. Os oes gennych ymholiadau am unrhyw agwedd ar waith gyda'r cyfryngau gan gynnwys llefarwyr lleol, astudiaethau achos a sylwadau ar asthma yng Nghymru, cysylltwch â swyddfa'r cyfryngau ar 020 7786 4949.



Cysylltwch â ni

Os hoffech wybod rhagor am ein gwaith yng Nghymru, e-bostiwch Asthma UK Cymru, neu ysgrifennwch atom yn: Llawr Tri, Ty Eastgate, 35-43 Fford Newport, Caerdydd CF24 0AB.