Lobïo'r llywodraeth
You can also read this section in English.
Cynadleddau’r pleidiau
Bu i Asthma UK Cymru fynychu pob un o’r pedwar o Gynadleddau’r Pleidiau yn ystod Gwanwyn 2010. Roeddent yn gyfle gwych i Asthma UK ddylanwadu ar benderfynwyr a gwneuthurwyr polisi allweddol ar ran y 314,000 o bobl sydd ag Asthma yng Nghymru.
Eleni roedd prif negeseuon Asthma UK Cymru yn cynnwys:
- Pwysigrwydd Cynlluniau Gweithredu Personol ar gyfer Asthma
- Yn Effro i Asthma
Monitro'r cynulliad
Byddwn yn cadw golwg fanwl ar fusnes y Cynulliad er mwyn canfod unrhyw bolisïau neu ddadleuon a allai effeithio ar fywydau pobl y mae asthma arnynt. Nodwch y dudalen hon er mwyn gweld y newyddion diweddaraf am fusnes y Cynulliad a allai effeithio arnoch chi.
Ymgynghoriadau'r cynulliad
Ers 2005, Mae Asthma UK Cymru wedi ymateb i sawl ymgynghoriad gan gynnwys:
Yn ddiweddar rydym wedi ymateb i ymgynghoriad y Cynulliad Cenedlaethol ar ysmygu mewn mannau cyhoeddus, ac wedi llunio achos cryf iawn dros waharddiad llwyr ar ysmygu ym mhob man cyhoeddus yng Nghymru. Byddwn yn dal i bwyso i wneud yn siŵr bod gwaharddiad mewn grym yng Nghymru cyn gynted ag y bo modd.
Bydd Asthma UK Cymru yn ymateb i bob ymgynghoriad gan y Cynulliad sy'n effeithio ar bobl y mae asthma arnynt yng Nghymru.
Ymunwch â'r e-ymgyrchwyr
Gallwch hefyd ddylanwadu ar benderfyniadau'r llywodraeth a phenderfyniadau polisi trwy ddod yn aelod o'n rhwydwaith o e-ymgyrchwyr. Trwy roi eich enw ar ein rhestr gyfoes o e-ymgyrchoedd gallwch roi gwybod i'ch AS neu i'ch AC lleol am y pryderon sydd gan bobl ag asthma yn genedlaethol ac yn lleol.
Cliciwch yma am fwy o wybodaeth ar e-ymgyrchoedd
Cysylltwch â ni
Os hoffech wybod rhagor am ein gwaith yng Nghymru, e-bostiwch Asthma UK Cymru, neu ysgrifennwch atom ni: Llawr Tri, Ty Eastgate, 35-43 Heol Casnewydd, Caerdydd CF24 0AB.

Follow us on Twitter
Find us on Facebook