Media Release
Asthma UK Cymru a Haynes yn lansio llyfryn yn arddull llyfrau eiconaidd ‘cynnal a chadw ceir'

11 June 2007
I gyd-fynd ag Wythnos Iechyd Dynion (11-16 Mehefin 2007), mae Asthma UK Cymru a Haynes Publishing wedi cynhyrchu llyfryn gwybodaeth yn null y llawlyfrau cynnal a chadw ceir adnabyddus, i geisio gwneud yn si_r bod dros 125,000 o ddynion sydd ag asthma arnynt yng Nghymru yn rheoli eu cyflwr yn effeithiol.
Mae ymchwil gan Asthma UK Cymru wedi dangos bod canran enfawr, 79%, o bobl ag asthma arnynt yng Nghymru heb fod â rheolaeth dros eu hasthma - ac y gallent felly fod yn byw â symptomau diangen sy'n effeithio ar ansawdd eu bywyd o ddydd i ddydd. Ar gyfartaledd mae pedwar o bobl yn marw bob dydd oherwydd asthma ac amcangyfrifir y byddai modd osgoi cynifer â 90% o'r marwolaethau hynny. Gallai hunanreolaeth well ar y cyflwr gyfrannu llawer iawn at osgoi'r trychinebau diangen hyn.
Meddai Dot Russell, nyrs asthma ar Linell gyngor Asthma UK: ‘Os oes angen ichi ddefnyddio eich anadlydd lliniaru yn amlach nag unwaith y dydd, yna efallai nad yw eich asthma dan reolaeth dda a dylech fynd i weld eich meddyg neu eich nyrs asthma i gael adolygiad asthma cyn gynted ag y bo modd.’
Dylai pobl sydd ag asthma arnyn nhw fod â chynllun gweithredu asthma personol ysgrifenedig i'w helpu i reoli eu cyflwr yn fwy effeithiol. Mae ymchwil wedi dangos os nad oes ganddyn nhw gynllun, eu bod bedair gwaith yn fwy tebygol o orfod cael triniaeth mewn ysbyty oherwydd pwl o asthma na phobl sydd â chynllun o'r fath.
Meddai Dot hefyd: ‘Dylai eich meddyg neu eich nyrs asthma drafod eich asthma â chi, a llunio cynllun gweithredu asthma personol ysgrifenedig gyda chi. Bydd y cynllun yn cynnwys y wybodaeth sydd ei hangen arnoch i reoli eich asthma, gan gynnwys manylion am eich moddion asthma, sut i wybod pan fydd eich symptomau'n gwaethygu a beth y dylech ei wneud ynghylch hynny, a beth i'w wneud ar frys os cewch bwl o asthma. Mae bod â chynllun yn un o'r ffyrdd mwyaf effeithiol o reoli eich asthma.’
Mae llawlyfr cryno Asthma UK a Haynes yn un o gyfres o lyfrynnau gwybodaeth sydd ar gael ar amrywiaeth eang o gyflyrau hirdymor yn ystod Wythnos Iechyd Dynion. Mae'r llyfrynnau wedi eu cynllunio yn null llawlyfrau cynnal a chadw ceir ac maent yn cynnwys gwybodaeth ar wneud gwell defnydd o wasanaethau'r GIG a chyngor ar ofalu amdanoch eich hun yn well.
I gael copi am ddim o lawlyfr cryno Asthma UK a Haynes, ffoniwch Dîm Cefnogwyr a Gwybodaeth Asthma UK ar 020 7786 5000 neu e-bostiwch info@asthma.org.uk. Neu mae'n bosibl lawrlwytho copi o'r llawlyfr hefyd o asthma.org.uk.
I gael cyngor annibynnol a chyfrinachol am asthma, cysylltwch â Llinell gyngor Asthma UK ar 08457 01 02 03, neu e-bostiwch nyrs asthma trwy ein gwefan, asthma.org.uk/adviceline.

Notes to editors
1. Caiff Wythnos Iechyd Dynion, a drefnir gan y Fforwm Iechyd Dynion, ei lansio mewn digwyddiad ar 11 Mehefin yn y Stage Centre yn Gateshead. Mae'n debygol hefyd y caiff dros 1,500 o ddigwyddiadau eu trefnu ar hyd a lled y wlad, gan gynnwys dyddiau ymwybyddiaeth o iechyd, archwiliadau i ddynion yn rhad ac am ddim, cynadleddau a digwyddiadau chwaraeon. Am wybodaeth bellach ewch i menshealthweek.org.uk.
2. Am wybodaeth bellach cysylltwch â Swyddfa Cyfryngau Asthma UK ar 020 7786 4949 neu mediaoffice@asthma.org.uk neu Swyddfa Cymru ar 02920 435400.
3. Asthma UK yw'r elusen sy'n gweithio i wella iechyd a lles y 5.2 miliwn o bobl yn y DU y mae asthma'n effeithio ar eu bywydau. Mae Asthma UK Cymru yn gweithio i wella iechyd a lles y 260,000 o bobl yng Nghymru y mae asthma'n effeithio ar eu bywydau.
4. Am y newyddion diweddaraf am asthma, gwybodaeth a chyhoeddiadau, ewch i wefan Asthma UK http://www.asthma.org.uk .
5. Kickasthma.org.uk yw gwefan ryngweithiol Asthma UK i blant a phobl ifanc ag asthma arnynt. Mae'r wefan yn cynnig cymorth a chyngor ac yn cynnwys geiriadur asthma, tudalen broblemau, gemau a bwrdd negeseuon.

Follow us on Twitter
Find us on Facebook