Media Release
Asthma UK Cymru yn lansio gwyliau Kick Asthma newydd yng Nghymru

15 February 2006
Asthma yw’r cyflwr hirdymor mwyaf cyffredin ymhlith plant yng Nghymru. Mae’r gyfran uchaf
o blant sydd o dan 14 oed sy’n cael eu derbyn i’r ysbyty oherwydd asthma yn y DU hefyd yn byw yng Nghymru. Ond, mae canlyniadau arolwg o blant sydd ag asthma a gynhaliwyd yn ddiweddar gan Asthma UK a Blue Peter yn nodi’r canlynol:
· Nid oedd gan tua hanner y plant o Gymru a lenwodd yr arolwg asthma y gellir ei reoli’n hawdd
· Dywedodd un o bob pump o’r plant o Gymru a lenwodd yr arolwg fod eu hasthma yn eu gwneud yn rhwystredig “yn aml”
· Dywedodd mwy na thraean o’r plant o Gymru a lenwodd yr arolwg nad oeddent yn gwybod beth sy’n achosi asthma, neu nad oeddent yn sicr o beth sy’n achosi asthma
Mae hyn yn amlygu’r angen i annog plant i ddysgu mwy am eu cyflwr a’i reoli yn fwy nag erioed. Mae gwyliau Kick Asthma Asthma UK - sef gwyliau antur i blant sydd ag asthma a chyflyrau cysylltiedig - yn rhan allweddol o’r gwaith a wna Asthma UK yn yr ardal hon. Bydd gwyliau cyntaf Kick Asthma yng Nghymru ym Mharc Cefn Lea yng nghefn gwlad y Canolbarth o 9-14 Awst.
Mae gwyliau Kick Asthma yn bwysig am eu bod yn helpu’r bobl sy’n cymryd rhan i fagu hyder: tra’n dysgu sut i reoli’u hasthma drwy fynychu sesiynau cyngor anffurfiol a gynhelir gan weithwyr proffesiynol gofal iechyd. Maent yn cyfarfod â phlant a phobl ifanc eraill sydd ag asthma a chyflyrau cysylltiedig, ac yn cael hwyl wrth gymryd rhan mewn llawer o weithgareddau corfforol a chymdeithasol.
Gwyddom fod effeithiau buddiol gwyliau Asthma UK yn para, a’u bod yn helpu plant a phobl ifanc i reoli’u hasthma yn well. Dri mis ar ôl gwyliau 2004, nododd rhieni’r canlynol:
· Gostyngiad o 9% yn nifer yr ymweliadau i feddygfa’r meddyg teulu eu plentyn oherwydd asthma
· Gostyngiad o 15% yn nifer yr ymweliadau i’r ysbyty oherwydd asthma eu plentyn
· Gostyngiad o 10% yn nifer y diwrnodau y mae’r plentyn wedi colli ysgol
· Cynnydd o 11% yn nifer y nosweithiau nad oedd y plentyn yn deffro yn ystod y nos oherwydd asthma
Caiff plant eu goruchwylio’n agos gan wirfoddolwyr a gaiff eu hyfforddi’n arbennig a chan weithwyr proffesiynol gofal iechyd, fel y gallant gymryd rhan mewn amrywiaeth o weithgareddau yn ddiogel, na fyddent wedi cael cyfle fel arall. Grŵp oedran y gwyliau yng Nghymru yw 12-17 oed, ac mae’r gweithgareddau’n cynnwys saethyddiaeth, adeiladu rafftau, dylunio crysau t, a nofio, yn ogystal â chwisiau asthma a gemau chwarae rôl.
Dyma a ddywedodd Tom Clarke, 15 oed, am y gwyliau Asthma UK a fynychodd yn 2005: ‘Rwy’n credu bod gwyliau Asthma UK yn wych; mwynheais fy hun yn fawr. Dysgais lawer am asthma a sut i’w reoli, ond mewn ffordd gyfeillgar a oedd yn llawn hwyl. Galla i ddim aros i fynd ar wyliau cyntaf Kick Asthma yng Nghymru.’
Gall gwyliau Kick Asthma gynnig seibiant i’r rhieni hefyd – efallai mai dyma’r tro cyntaf i rieni rhai plant ag asthma deimlo’n ddigon hyderus i adael eu plentyn yng ngofal rhywun arall.
Ychwanega Carol Clarke, mam Tom: ‘Mae’n atgoffa Tom nad ef yw’r unig un ag asthma – mae hyn yn bwysig iawn am nad yw’n cyfarfod â phlant eraill fel hyn o gwbl fel arall. Mae hefyd yn golygu y gall ymlacio a mwynhau ei hun, gan fod y plant eraill wedi rhannu profiadau’r salwch. Mae’n rhoi seibiant i mam a dad hefyd heb orfod poeni am yr hyn a all fod yn salwch sy’n peryglu bywyd pan fydd ar ei waethaf.’
Dywedodd Nia Jeffreys, Rheolwraig Genedlaethol Asthma UK Cymru: ‘Mae’r gwyliau yn helpu’r plant i fagu hyder wrth reoli’u hasthma yn ogystal â bod yn fwy allblyg yn gyffredinol. Efallai bod rhai o’r plant wedi cael eu poeni yn yr ysgol oherwydd eu cyflwr ac efallai nad oeddent wedi cyfarfod â phlant eraill ag asthma o’r blaen. Ar ôl rhai dyddiau, maent yn sylweddoli bod pawb yn yr un cwch, felly mae’n haws iddynt wneud ffrindiau, magu hyder, a hyd yn oed gymryd rhan mewn gweithgareddau nad oeddent yn teimlo y gallent gymryd rhan ynddynt o’r blaen oherwydd eu hasthma.’
Fel arfer, mae gwyliau Kick Asthma yn para wythnos, ac oherwydd eu bod yn cael eu trefnu gan Asthma UK, ceir cymorth gyda’r gost. Er mwyn sicrhau na fydd pobl yn colli’r cyfle i fynd ar wyliau Kick Asthma, gofynnir i rieni dalu cymaint ag y gallant ei fforddio. Mae’r pris yn amrywio o £20 o £350 yn dibynnu ar y gallu i dalu.
I gael rhagor o wybodaeth, cysylltwch â holidays@asthma.org.uk, ffoniwch 020 7786 5000 , neu ewch i asthma.org.uk
Mae manylion llawn gwyliau Kick Asthma 2006 fel a ganlyn:
· 15-21 Gorffennaf
· Canolfan Cornmeal, Ballycastle, Gogledd Iwerddon
· 16-22 Gorffennaf
· Castell Merchiston, Caeredin
· 6-11 Awst
· Canolfan Frontier, Northampton
· 9-14 Awst (12-17 oed yn unig)
· Parc Cefn Lea, Cymru
· 13-19 Awst
· Coleg Ashville, Harrogate
· 20-26 Awst
· Ysgol West Hill Park, Southampton
-Diwedd-

Notes to editors
Nodiadau i Olygyddion:
1. Mae 205,000 o oedolion a 55,000 o blant ag asthma yng Nghymru. Mae hyn yn gyfystyr ag un plentyn o bob deg ac un oedolyn o bob 12.
2. Galwyd gwyliau Kick Asthma yn wyliau PEAK yn flaenorol. Cyflwynwyd yr enw newydd fel rhan o waith Asthma UK i ddatblygu gwasanaethau newydd a gwasanaethau gwell i blant a phobl ifanc ag asthma. Ymhlith mentrau Kick Asthma eraill mae gwefan newydd sbon Kick-A, sy’n seiliedig ar ddinas ffug Kick-A City a’i thrigolion, sef Kick-A Crew, sy’n cyfleu’r profiadau o fyw gydag asthma o ddydd i ddydd. I gael rhagor o wybodaeth ewch i kickasthma.org.uk
3. Cwblhawyd Arolwg Blue Peter/Asthma UK 2005 gan 754 o blant yng Nghymru; 405 ohonynt ag asthma a 349 heb asthma ond yn adnabod rhywun ag asthma. Fe’i cynhaliwyd ym mis Medi 2005.
4. Casglwyd canlyniadau’r holiadur gwyliau 2004 drwy ddadansoddi holiaduron gwerthuso a anfonwyd at y rhai a gymerodd ran a’u rhieni cyn y gwyliau, ac ar ddiwedd y gwyliau a thri mis ar ôl i’r gwyliau ddod i ben.
5. Mae rhieni’r rhai a gymerodd ran mewn gwyliau blaenorol ar gael ar gyfer cyfweliadau drwy gais. Cysylltwch â swyddfa’r cyfryngau Asthma UK ar 020 7786 4949.
6. Mae lluniau o wyliau blaenorol ar gael hefyd o swyddfa’r cyfryngau Asthma UK ar 020 7786 4949.
7. I gael rhagor o wybodaeth am wyliau Kick Asthma, ewch i wefan Asthma UK yn asthma.org.uk
8. I drefnu bod newyddiadurwr yn ymweld â gwyliau Kick Asthma yr haf hwn, cysylltwch â swyddfa’r cyfryngau Asthma UK ar 020 7786 4949
9. I gael cyngor annibynnol a chyfrinachol ar asthma, ffoniwch Llinell Cynghori Asthma UK ar 08457 01 02 03, neu anfonwch neges e-bost at nyrs arbenigol asthma yn asthma.org.uk/adviceline.

Follow us on Twitter
Find us on Facebook