Media Release

Asthma UK Cymru ar y maes i wella ymwybyddiaeth o asthma
14 July 2009

Yr wythnos hon bydd Asthma UK Cymru yn ymuno â Diabetes UK Cymru a'r Gymdeithas Strôc i gynnal stondin iechyd yn Sioe Frenhinol Cymru, gan ddod â chyngor a gwybodaeth a allai achub bywydau i bobl y mae asthma arnynt o gymunedau gwledig yng Nghymru.

Mae dros 300,000 o bobl yng Nghymru ag asthma arnynt a'r gwir brawychus yw bod dynion o oedran gweithio sy'n gweithio mewn swyddi corfforol bedair gwaith yn fwy tebygol o farw o'r cyflwr na dynion o grwpiau cymdeithasol eraill¹. Yng Nghymru caiff dros ddeg o bobl y dydd eu rhuthro i'r ysbyty oherwydd y cyflwr hwn sy'n bygwth bywydau, ond gwyddom y gellid osgoi 75% o'r argyfyngau hyn gyda'r driniaeth a'r gofal cywir. Nid yw pobl o gymunedau gwledig bob amser yn cael y wybodaeth y mae arnynt ei hangen am iechyd mewn ffyrdd eraill, ac felly mae bod yn bresennol yn y digwyddiad hwn yn ffordd bwysig o sicrhau bod pobl yn deall mwy am reoli eu hasthma eu hunain neu asthma eu plentyn. Mae hefyd yn rhoi cyfle iddynt holi cwestiynau neu sgwrsio am unrhyw bryderon.

Bydd y stondin yn cael ei rhedeg gan staff, gweithwyr iechyd proffesiynol a gwirfoddolwyr - y mae asthma ar lawer ohonynt eu hunain - a fydd wrth law i roi cyngor a gwybodaeth ac i gyfeirio pobl at wasanaethau. Bydd Asthma UK Cymru hefyd yn darparu pob math o ddeunyddiau dwyieithog. Mae'r rhain yn cynnwys y Cardiau Pwl o Asthma a all achub bywydau, sy'n rhoi gwybodaeth sylfaenol am sut i adnabod pwl o asthma a pha gamau i'w cymryd. Maent hefyd yn cynnwys deunyddiau Be in Control Asthma UK, sy'n cynnwys dyddiaduron anterth llif a chynlluniau gweithredu asthma personol sy'n helpu pobl i reoli eu hasthma ac osgoi derbyniadau brys yn y dyfodol.

Bydd Asthma UK Cymru hefyd yn gofyn i ymwelwyr rannu eu profiadau o ofal asthma mewn ardaloedd gwledig, gan gynnwys gofal brys, a chaiff y wybodaeth hon ei defnyddio i lobïo ac ymgyrchu ar ran pobl y mae asthma arnynt ar draws Cymru. Bydd eu sylwadau hefyd yn bwydo'r cynllun iechyd gwledig, i sicrhau bod pawb yn cael yr un safon o ofal asthma, lle bynnag y maent yn byw.

Meddai Catrin Shorney, Asthma UK Cymru: ‘Nid oes angen i asthma rwystro pobl rhag byw bywyd yn llawn. Trwy fod â stondin iechyd yn y Sioe Frenhinol edrychwn ymlaen at y cyfle i wneud yn siŵr bod mwy o bobl yn ymwybodol o hynny.

Yn aml mae mwy o berygl i bobl o ardaloedd gwledig yng Nghymru fod â rheolaeth wael ar eu hasthma. Wrth roi gwybodaeth dda i bobl am eu cyflwr, credwn ein bod yn rhoi gwell cyfle iddynt fyw bywydau hapus ac iach.’

Cynhelir y digwyddiad o 20-23 o Orffennaf yn Llanelwedd, Llanfair-ym-muallt. Gellir prynu tocynnau yno a bydd Asthma UK Cymru yn stondin C244, Rhodfa C. Am ragor o wybodaeth am y digwyddiad ewch i rwas.co.uk

Diwedd 

Am wybodaeth bellach cysylltwch â Swyddfa Cyfryngau Asthma UK ar 020 7786 4949 neu mediaoffice@asthma.org.uk

Contact:

Media Office
020 7786 4949
mediaoffice@asthma.org.uk

Notes to editors

  1. Asthma UK Cymru yw'r elusen sy'n gweithio i wella iechyd a lles y 314,000 o bobl yng Nghymru y mae asthma'n effeithio ar eu bywydau.
  2. Am y newyddion diweddaraf am asthma, gwybodaeth a chyhoeddiadau, ewch i wefan Asthma UK yn asthma.org.uk.
  3. Mae cyngor cyfrinachol am asthma ar gael trwy siarad â nyrs ar Linell gyngor Asthma UK, ar 0800 121 62 44 (Llun - Gwener, o 9.00 a.m. - 5.00 p.m). Neu e-bostiwch nyrs asthma arbenigol yn asthma.org.uk/adviceline.