Media Release

Asthma UK Cymru yn lansio adroddiad ar gyflwr
24 June 2008

Mae Asthma UK Cymru heddiw'n lansio adroddiad Chwarter Miliwn o Leisiau…....ac yn Cyfrif, sy'n amlinellu'r heriau sy'n wynebu pobl ag asthma arnynt yng Nghymru heddiw ac yn tynnu sylw at yr angen am welliant enfawr yn y gwasanaethau iechyd asthma yng Nghymru. Mae cyfraddau asthma yng Nghymru ymhlith yr uchaf yn y byd, gydag un oedolyn ym mhob deuddeg ac un plentyn o bob deg yn byw gyda'r cyflwr. Yng Nghymru hefyd y mae rhai o'r niferoedd derbyn i'r ysbyty uchaf yn y byd, gyda thros 4,000 o dderbyniadau bob blwyddyn.  Er bod yr adroddiad yn tynnu sylw at welliannau pwysig i fywydau pobl y mae asthma arnynt, mae ymchwil newydd yn datgelu bod:

  • Canran frawychus - 75% - o'r bobl ag asthma arnynt yng Nghymru heddiw heb gynllun gweithredu asthma personol, ac eto bod llawer o'r bobl hynny'n dymuno cael cynllun o'r fath.

Mae pobl sydd â chynllun o'r fath bedair gwaith yn llai tebygol o orfod cael eu derbyn i'r ysbyty oherwydd eu hasthma, ac mae'r ‘Cyfarwyddebau ar Ddatblygu a Chomisiynu Gwasanaethau: Cyflyrau Anadlol Cronig’ yn datgan y dylai pob claf yng Nghymru sydd â chyflyrau anadlol cronig fod â chynllun gofal unigol erbyn Medi 2008; dylai'r rhain fod wedi eu datblygu rhwng y claf a'i weithiwr gofal iechyd proffesiynol. Mae gan Asthma UK gynlluniau gweithredu asthma personol y gellir eu defnyddio fel ffordd gyflym ac effeithiol o helpu i gyflwyno cynlluniau gofal ar draws Cymru.

  • Pobl y mae asthma arnynt sy'n byw mewn ardaloedd difreintiedig yng Nghymru, fel Blaenau Gwent, sydd fwyaf tebygol o deimlo bod eu hasthma allan o reolaeth, o ddweud bod y cyflwr wedi cyfyngu ar eu bywydau ac o fod â disgwyliadau is ynghylch sut y gall eu triniaeth asthma helpu i wella eu cyflwr.
  • Er y gwelliannau mewn moddion asthma a thriniaeth asthma dros y blynyddoedd diwethaf, mae 24% o bobl y mae asthma arnynt yn teimlo nad oes dim y gallant ei wneud i gyfyngu ar symptomau asthma. Ac mae un o bob saith yn teimlo bod y cyflwr yn cael effaith negyddol ar sut y mae pobl eraill yn eu gweld.


Meddai Janet Pardue-Wood, Cyfarwyddwr Cenedlaethol Asthma UK Cymru: ‘Er bod presgripsiynau am ddim a deddfwriaeth ddi-fwg wedi helpu i esmwytháu’r baich ar fywydau pobl y mae asthma arnynt yng Nghymru, mae ein hadroddiad yn dangos yn glir bod llawer iawn o waith eto i'w wneud. Pan nad yw asthma o dan reolaeth effeithiol, gall ei effaith fod yn andwyol ac mewn rhai achosion yn farwol, a dyna pam y mae gwella gofal iechyd a lleihau'r derbyniadau i'r ysbyty i'r 260,000 o bobl ag asthma arnynt yng Nghymru yn un o nodau allweddol Asthma UK Cymru. Nod ein hadroddiad newydd, Chwarter Miliwn o Leisiau…....ac yn Cyfrif yw dathlu newidiadau polisi pwysig sydd wedi cael effaith gadarnhaol ar bobl ag asthma arnynt yng Nghymru, a thanlinellu yr un pryd sut y gallwn wella mwy ar eu bywydau.’

Meddai Abigail Foster, y mae asthma arni: ‘Rwy'n falch o'r rhan a gymerais yn ymgyrch Asthma UK Cymru dros bresgripsiynau am ddim, sydd wedi gwneud cymaint o wahaniaeth i bobl ag asthma arnynt yng Nghymru. Er bod fy asthma o dan reolaeth eithaf da, mae angen chwe math o foddion arnaf i sicrhau hynny. Petai'n rhaid imi dalu o hyd am yr holl foddion hyn, buan y byddai'n mynd yn swm mawr. Ac os yw rhywun fel fi, sy'n ennill cyflog gweddol ac yn gwneud yn siŵr bod fy asthma o dan reolaeth, yn meddwl ddwywaith am gost fy moddion, beth am rywun sy'n ei chael yn anodd cael dau ben y llinyn ynghyd?’

Bydd yr adroddiad yn cael ei lansio mewn digwyddiad i ddathlu 3ydd pen-blwydd Asthma UK Cymru yn y Senedd ddydd Mawrth 24 Mehefin. Gyda'r nos bydd plant o Ysgol Gynradd Lansdowne yn ymuno ag Asthma UK Cymru ac yn dangos yr effaith y mae newidiadau polisi allweddol wedi ei chael ar bobl y mae asthma arnynt, yn eu drama Dod ag Asthma i'r Amlwg. Bydd y gwahoddedigion yn cynnwys aelodau'r Cynulliad, gweithwyr gofal iechyd proffesiynol a phobl y mae asthma arnynt.

Contact:

Media Office
020 7786 4949
mediaoffice@asthma.org.uk

Notes to editors

  1. Noddwyd cynhyrchu'r adroddiad Chwarter Miliwn o Leisiau…....ac yn Cyfrif â grant addysgol gan GlaxoSmithKline.
  2. Cefnogir y digwyddiad i ddathlu pen-blwydd Asthma UK Cymru yn dair oed yn y Senedd â grant addysgol gan Novartis.
  3. Am wybodaeth bellach cysylltwch â Swyddfa Cyfryngau Asthma UK ar 020 7786 4949 neu mediaoffice@asthma.org.uk neu â Swyddfa Cymru ar 02920 435400.
  4. Asthma UK yw'r elusen sy'n gweithio i wella iechyd a lles y 5.2 miliwn o bobl yn y DU y mae asthma'n effeithio ar eu bywydau. Mae Asthma UK Cymru yn gweithio i wella iechyd a lles y 260,000 o bobl yng Nghymru y mae asthma'n effeithio ar eu bywydau.
  5. Am y newyddion diweddaraf am asthma, gwybodaeth a chyhoeddiadau, ewch i wefan Asthma UK asthma.org.uk.
  6. Am gyngor annibynnol a chyfrinachol am asthma, ffoniwch Linell gyngor Asthma UK, sydd â nyrsys asthma arbenigol yn gweithio arni. Mae'r llinell ar agor yn ystod yr wythnos o 9am hyd 5pm ar 08457 01 02 03. Neu e-bostiwch nyrs asthma yn asthma.org.uk/adviceline.