Media Release

Athrawon ysgol yn cael hyfforddiant asthma a allai achub bywydau
08 June 2007

Ddydd Llun 11 Mehefin 2007, bydd Asthma UK Cymru yn lansio prosiect a allai achub bywydau. Ei nod yw dysgu athrawon sut i ofalu am blant ag asthma arnyn nhw.

Gan Gymru y mae un o'r cyfraddau asthma uchaf yn y byd, gyda 55,000 o blant - neu un plentyn o bob deg - yn byw gyda’r cyflwr. Amcangyfrifir bod asthma ar o leiaf dri o blant ar gyfartaledd ym mhob ystafell ddosbarth. Ac eto ychydig iawn y mae llawer o athrawon yn ei wybod am asthma nac am sut i ofalu am blant sydd â'r cyflwr difrifol a chyffredin hwn, sydd er hynny'n gyflwr y gellir ei reoli.

Mae'r prosiect yn cael ei lansio yn Ysgol Gynradd Lansdowne yng Nghaerdydd, lle bydd athrawon yn mynychu sesiwn wybodaeth ddwyawr dan arweiniad nyrs asthma arbenigol. Nod y cwrs yw lleihau'r risgiau i blant ag asthma arnyn nhw trwy gynnig canllawiau ar foddion, sut i ddefnyddio anadlyddion a sut i adnabod a rheoli pyliau o asthma.

Meddai Catrin Shorney, Swyddog Datblygu Gwasanaethau Asthma, Asthma UK Cymru: ‘Bydd yr hyfforddiant hwn yn helpu i wneud yn si_r bod plant ysgol yn cael y safon uchel o ofal y maent yn eu haeddu tra byddant yn yr ysgol. Bydd yn gwneud yn si_r bod athrawon yn gwybod beth i'w wneud os bydd plentyn y maent yn gofalu amdano'n cael pwl o asthma, a gallai helpu i achub bywydau.

‘Bydd yr hyfforddiant hefyd yn helpu i sicrhau rhieni plant ag asthma arnynt eu bod yn y dwylo mwyaf diogel sy'n bosibl ac rydym yn cynllunio rhagor o sesiynau hyfforddi i athrawon mewn lleoliadau ar draws Cymru.’

Meddai Richard Edwards, Prifathro Ysgol Gynradd Lansdowne: ‘Rydym wrth ein bodd o fod yn cydweithio ag Asthma Cymru ar y prosiect pwysig hwn. Rydym yn rhoi'r pwys mwyaf ar ofalu am ein plant ac mae'n hanfodol bod ein holl staff a gofalwyr yn cael eu hyfforddi i ofalu am blant sydd â'r cyflwr hwn a all fod yn un marwol.’

Nod y sesiwn hyfforddi ddwyawr yw cyrraedd saith nod hyfforddi er mwyn sicrhau:

  • Dealltwriaeth o hanfodion asthma
  • Gwybodaeth am beth sy'n sbarduno pwl o asthma
  • Gwybodaeth am y moddion a ddefnyddir i drin asthma
  • Gwybodaeth am ddyfeisiau a ddefnyddir i drin asthma
  • Beth i'w wneud os bydd plentyn yn cael pwl o asthma
  • Sut i wneud eich sefydliad chi yn un sy'n ‘hwylus i rywun ag asthma arno'
  • Pryd i alw am gymorth meddygol.

Mae Asthma UK Cymru hefyd yn cynnal sesiynau 'Yn effro i Asthma’ i blant cyn oedran ysgol. Gall unrhyw sefydliadau sydd â diddordeb mewn cael hyfforddiant cyn oedran ysgol neu hyfforddiant ysgol gynradd gysylltu â Catrin Shorney yn Asthma UK Cymru ar 02920 435 400.

Contact:

Media Office
020 7786 4949
mediaoffice@asthma.org.uk

Notes to editors

1. Am wybodaeth bellach cysylltwch â swyddfa cyfryngau Asthma UK ar 020 7786 4949 neu mediaoffice@asthma.org.uk neu Swyddfa Cymru ar 02920 435400.
2. Asthma UK yw'r elusen sy'n gweithio i wella iechyd a lles y 5.2 miliwn o bobl yn y DU y mae asthma'n effeithio ar eu bywydau. Mae Asthma UK Cymru yn gweithio i wella iechyd a lles y 260,000 o bobl yng Nghymru y mae asthma'n effeithio ar eu bywydau.
3. Am y newyddion diweddaraf am asthma, gwybodaeth a chyhoeddiadau, ewch i wefan Asthma UK asthma.org.uk.
4. Kickasthma.org.uk yw gwefan ryngweithiol Asthma UK i blant a phobl ifanc ag asthma arnynt. Mae'r wefan yn cynnig cymorth a chyngor ac yn cynnwys geiriadur asthma, tudalen broblemau, gemau a bwrdd negeseuon.
5. Am gyngor annibynnol a chyfrinachol am asthma, ffoniwch Linell gyngor Asthma UK, sydd â nyrsys asthma arbenigol yn gweithio arni. Mae'r llinell ar agor yn ystod yr wythnos o 9am hyd 5pm ar 08457 01 02 03. Neu e-bostiwch nyrs asthma yn asthma.org.uk/adviceline.