Media Release
Cyngor ar gyfer gaeaf heb ffliw gan Asthma UK Cymru

28 September 2007
‘Mae pobl sy’n dioddef o asthma mewn mwy o berygl o gael ffliw na phobl eraill gan fod symptomau asthma yn aml yn cychwyn gyda heintiau anadlu. Felly'r cyngor yw cael pigiad rhag y ffliw.’
Dyna gyngor Erica Evans, Rheolwraig Ddatblygu Gofal Asthma yn Asthma UK wrth i ni baratoi ar gyfer gaeaf 2007.
Mae dros 5 miliwn o bobl yn dioddef o’r asthma yn y DU, ac i 90% ohonynt mae annwyd a ffliw yn cychwyn gyda symptomau asthma sy’n golygu y gall y ffliw peri pryder mawr iddynt. Tra bod hi bron yn amhosibl osgoi dal annwyd, gall cymryd pigiad yn erbyn y ffliw helpu i rwystro’r firws rhag cydio.
Dywed Erica: ‘Derbyniwn lawer o alwadau ar y llinell gymorth Asthma UK Adviceline oddi wrth bobl ag asthma arnynt sydd â’u symptomau’n waeth yn ystod misoedd y gaeaf. Mae’r ffliw wastad yn bryder ond ei rwystro yw’r allwedd. Byddwn yn argymell unrhyw un sy’n dioddef o asthma i drafod gyda’i feddyg teulu neu nyrs y feddygfa'r posibilrwydd o gael pigiad rhag y ffliw, cyn i’r firws ddechrau mynd ar led.
Mae’r ffliw yn heintus iawn: yn ôl yr Adran Iechyd gall 100,000 o ronynnau o’r ffliw gael eu chwalu i’r awyr gydag un tisiad yn unig. O dderbyn bod un tisiad yn teithio ar gyflymdra o 80 milltir yr awr a’i fod yn gallu cyrraedd 30 troedfedd o bellter, go brin ei bod hi’n syndod fod o leiaf 10% o’r boblogaeth yn cael y ffliw bob blwyddyn. Mae brechiad rhag y ffliw yn cynnig amddiffyniad rhag y firws am flwyddyn ac yn rhad ac am ddim i’r bobl sydd fwyaf tueddol o’i gael, gan gynnwys y rhai sydd ag asthma arnynt.
Yr hydref yw’r adeg orau i gael y pigiad ac mae’n bwysig hefyd i gael brechiad bob blwyddyn i’ch diogelu rhag straen diweddaraf y firws, sy’n aeddfedu’n gyson.
‘Mae’r brechlyn rhag y ffliw wedi cael ei ddefnyddio’n helaeth dros nifer o flynyddoedd. Mae’n ddiogel ac yn effeithiol a chanddo fawr iawn o sgîl-effeithiau,' medd Erica yn hyderus. ‘Ar wahân i dderbyn y brechlyn ffliw, gall pobl wneud pethau eraill i leihau effeithiau annwyd a firws ar eu hasthma. Un ffordd yw dilyn cynllun ysgrifenedig gweithredu personol asthma fel y bydd rhywun yn gwybod pryd a sut i addasu ei driniaeth os bydd yr asthma yn gwaethygu.’
Dyma gyngor Erica: ‘Dylai pobl sydd ag asthma arnynt gysylltu â’u meddyg teulu neu nyrs y feddygfa gan ofyn i rywun lenwi cynllun gweithredu asthma personol drostynt. Gellir cymryd camau syml hefyd i sicrhau bod eich asthma o dan reolaeth:’
I gael mwy o gymorth personol gyda’ch pryderon yngl_n â’ch asthma, siaradwch â nyrs asthma ar y llinell Asthma UK Adviceline, 08457 01 02 03, neu ymwelwch â asthma.org.uk

- Daliwch ati i gymryd y meddyginiaethau a gawsoch gan y meddyg
- Os gwyddoch fod awyr oer yn cychwyn eich asthma, cymerwch anadliad neu ddau o’ch anadlwr i esmwytháu’ch anadlu cyn mynd allan. Lapiwch yn dynn amdanoch a gwisgwch sgarff dros eich trwyn a’ch ceg - bydd hyn yn gymorth i gynhesu’r awyr cyn i chi ei hanadlu
- Cymerwch fwy o ofal wrth ymarfer yn y tywydd oer. Cynheswch am 10-15 munud a chymerwch anadliad neu ddau o’ch anadlwr i esmwytháu eich anadlu cyn dechrau
- Byddwch gall. Os ydy tywydd oer yn cychwyn eich asthma, mae’n debyg nad yw’n syniad da i geisio rhedeg ar draws gwlad pan fydd hi’n oer tu allan
I gael mwy o gymorth personol gyda’ch pryderon yngl_n â’ch asthma, siaradwch â nyrs asthma ar y llinell Asthma UK Adviceline, 08457 01 02 03, neu ymwelwch â asthma.org.uk
Notes to editors
Nodiadau i Olygyddion
1. Ceir gwybodaeth bellach trwy gysylltu â swyddfa gyfryngau Asthma UK ar 020 7786 4949 neu ar mediaoffice@asthma.org.uk neu’r swyddfa yng Nghymru ar 0209 435400.
2. Mae Asthma UK yn elusen sy’n ymroddedig i wella iechyd a lles y 5.2 miliwn o bobl sy’n cael eu heffeithio gan asthma. Mae Asthma UK Cymru yn ymroddedig i wella iechyd a lles y 260,000 o bobl Cymru sy’n cael ei heffeithio gan asthma.
3. Ymwelwch â gwefan Asthma UK ar asthma.org.uk er mwyn cael y manylion cyfredol ar asthma.
4. Kickasthma.org.uk yw gwefan rhyngweithiol Asthma UK ar gyfer plant a phobl ifanc sydd ag asthma arnynt. Mae’r safle’n cynnig cefnogaeth a chyngor ac yn cynnwys geiriadur asthma, tudalen yn delio â phroblemau, chwaraeon a hysbysfwrdd.
5. Er mwyn cael cyngor annibynnol a chyfrinachol ar asthma, ffoniwch Asthma UK Adviceline, lle y cewch ateb gan nyrsys sydd yn arbenigo ar asthma. Mae’n agored yn ystod yr wythnos o 9yb tan 5yp ar 08457 01 02 03. Neu anfonwch e-bost at nyrs asthma ar asthma.org.uk/adviceline.

Follow us on Twitter
Find us on Facebook