Cyngor i’r rhai sy’n dioddef o asthma wrth i’r tymheredd ddisgyn
03 November 2008
Ar ddydd Mawrth 4 Tachwedd, bydd staff Asthma UK Cymru ar gael yn arddangosfa Wythnos Genedlaethol Byw’n Iach i gynnig gwybodaeth a chyngor ar reoli asthma, yn enwedig yn ystod misoedd oer y gaeaf, pan fydd mwy o bobl yn cael eu derbyn i’r ysbyty gyda’r cyflwr nag ar unrhyw adeg arall.
Mae cyfradd dioddefwyr asthma ymhlith poblogaeth Cymru yn un o’r rhai uchaf yn y byd, gydag 1 o bob 10 oedolyn ac 1 o bob 9 plentyn yn byw gyda’r cyflwr. Wrth i dywydd oer y gaeaf ddod, mae Asthma UK Cymru yn tynnu sylw at gamau a ddylai help pobl sydd ag asthma i reoli eu cyflwr, fel rhan o Wythnos Genedlaethol Byw’n Iach, sy’n ceisio gwella iechyd cymunedau yng Nghymru.
Meddai Edwina Wooler, nyrs clinigol arweiniol yn Asthma UK: ‘Os ydych chi, fel llawer o bobl eraill, yn sylwi bod y tywydd oer yn gwneud eich symptomau’n waeth, rydym yn eich cynghori i ddilyn yr awgrymiadau syml hyn:
- Daliwch i gymryd eich meddyginiaeth reolaidd a ragnodwyd gan eich meddyg
- Os ydych yn gwybod bod aer oer yn sbarduno eich asthma, cymerwch ychydig o byffiau o’ch anadlydd lliniarol cyn mynd allan
- Sicrhewch fod eich anadlydd lliniarol glas wrth law gennych bob amser
- Gwisgwch yn gynnes a gwisgwch sgarff dros eich trwyn a’ch ceg – bydd hyn yn helpu i gynhesu’r aer cyn i chi ei fewnanadlu
- Cymerwch ofal arbennig wrth gael ymarfer corff ar dywydd oer. Cynheswch am 10–15 munud a chymerwch ychydig o byffiau o’ch anadlydd lliniarol cyn i chi ddechrau.’
Mae Edwina hefyd yn argymell y dylai pobl sydd ag asthma fod â chynllun gweithredu personol ysgrifenedig ar gyfer eu hasthma: ‘Cynllun yw hwn a ddylai gael ei gwblhau gan eich meddyg neu’ch nyrs asthma a’i drafod â chi ac mae’n cynnwys yr wybodaeth y mae arnoch ei hangen i reoli eich asthma. Dylai gynnwys gwybodaeth am eich meddyginiaeth, beth yw’r arwyddion amlwg fod eich asthma yn gwaethygu a beth y dylech ei wneud amdano, yn ogystal â gwybodaeth argyfwng am beth i’w wneud os cewch bwl o asthma.
’Cynhelir arddangosfa Wythnos Genedlaethol Byw’n Iach yn Senedd y Cynulliad Cenedlaethol. Noddir yr Wythnos gan Grŵp Trawsbleidiol y Cynulliad dros Fyw’n Iach, sy’n cynnwys Aelodau o’r Cynulliad a mudiadau gwirfoddol. Y nod yw helpu pobl i fwynhau bywyd mwy egnïol a llawn. Mae’n rhedeg o ddydd Sul 2 Tachwedd i ddydd Sadwrn 8 Tachwedd 2008.
Meddai Nia Jeffreys, Cyfarwyddwr Cenedlaethol Asthma UK Cymru: ‘Rydym yn falch iawn o fod yn rhan o raglen mor uchelgeisiol, ochr yn ochr â chynifer o fudiadau gwirfoddol eraill, sy’n creu wythnos genedlaethol o weithredu a gwybodaeth yng Nghymru. Credwn y bydd eleni’n llwyddiannus iawn.’
Notes to editors
- Am ragor o wybodaeth, cysylltwch â Swyddfa Cyfryngau Asthma UK ar y rhif 020 7786 4949 neu yn mediaoffice@asthma.org.uk neu swyddfa Cymru ar y rhif 02920 435400.
- Asthma UK yw’r elusen ar gyfer gwella iechyd a lles y 5.4 miliwn o bobl ym Mhrydain y mae asthma yn effeithio ar eu bywydau. Mae Asthma UK Cymru yn gweithio i wella iechyd a lles y 314,000 o bobl yng Nghymru y mae asthma yn effeithio ar eu bywydau.
- Ar gyfer y newyddion diweddaraf am asthma a gwybodaeth a chyhoeddiadau, ewch i wefan Asthma UK, asthma.org.uk
- Kickasthma.org.uk yw gwefan ryngweithiol Asthma UK ar gyfer plant a phobl ifanc sydd ag asthma. Mae’r wefan yn cynnig cefnogaeth a chyngor ac mae’n cynnwys geiriadur asthma, tudalen problemau, gemau a bwrdd negeseuon.
- Ar gyfer cyngor annibynnol a chyfrinachol ar asthma, ffoniwch Linell Gymorth Asthma UK, sy’n cael ei staffio gan nyrsys sy’n arbenigo mewn asthma. Mae’n agored yn ystod yr wythnos o 9am i 5pm ar y rhif 08457 01 02 03. Neu anfonwch e-bost at un o’r nyrsys asthma yn asthma.org.uk/adviceline

Follow us on Twitter
Find us on Facebook