Datgelu gwahaniaethau annerbyniol yn y niferoedd a dderbynnir i'r ysbyty ar frys yn achos oedolion a phlant ag asthma arnynt yng Nghymru
06 May 2008
I nodi Diwrnod Asthma'r Byd ar 6 Mai 2008, mae Asthma UK Cymru wedi cyhoeddi adroddiad sy'n datgelu gwahaniaethau brawychus rhwng Byrddau Iechyd Lleol yn y niferoedd a dderbynnir i'r ysbyty ar frys oherwydd asthma, a hynny yn achos oedolion a phlant.
Mae'r adroddiad yn rhan o ymgyrch gan Asthma UK o'r enw ‘Lle braf i fyw?’ sy'n tynnu sylw at y loteri a wynebir gan bobl y mae asthma arnynt yng Nghymru ac ar draws y DU wrth geisio cael at wasanaethau iechyd lleol. Nod yr ymgyrch yw ysgwyd llywodraethau a gwasanaethau iechyd ar draws y DU i fod yn fwy o ddifrif ynghylch asthma a sicrhau y ceir safonau cyson ar draws y DU. Yn ogystal â'r effaith andwyol ar fywydau pobl, mae derbyniadau brys i'r ysbyty yn hynod o gostus ac yn gyfrifol am ran fawr o'r £1 biliwn yr amcangyfrifir y mae asthma yn ei gostio i'r GIG bob blwyddyn.
Mae'r adroddiad yn dangos bod pobl y mae asthma arnynt sy'n byw ym Mlaenau Gwent dros dair gwaith yn fwy tebygol o orfod mynd i’r ysbyty oherwydd eu hasthma na'r rhai sy'n byw yng Ngheredigion neu Bowys lle mae’r nifer isaf o dderbyniadau brys yng Nghymru. Mae'r ffigurau'n awgrymu nad yw safon y gwasanaethau i bobl y mae asthma arnynt yn gyson uchel ar draws Cymru ac maent yn dangos rhyw gysylltiad rhwng ardaloedd o amddifadedd uchel a derbyn niferoedd uchel i'r ysbyty ar frys.
Mae'n fater o bryder bod adroddiad Asthma UK Cymru hefyd yn dangos bod plant ag asthma arnyn nhw yn Abertawe dros ddwywaith yn fwy tebygol o gael eu derbyn i'r ysbyty oherwydd eu hasthma na phlant yng Ngheredigion neu Bowys. Effeithir ar 55,000 o blant, sy'n golygu bod gan Gymru rai o'r cyfraddau uchaf o asthma mewn plant yn y byd a bod dros draean y derbyniadau i'r ysbyty oherwydd asthma yng Nghymru yn blant o dan 15 oed, sy'n golygu bod ar bron 23 o blant yr wythnos angen gofal brys i'w helpu i anadlu.
Yng ngoleuni'r adroddiad hwn, mae Asthma UK Cymru yn annog Byrddau Iechyd Lleol ar draws Cymru i helpu i leihau'r niferoedd a dderbynnir ar frys trwy ymrwymo i Restr Wirio Gwasanaethau Asthma Da Asthma UK, sy'n amlinellu’r safon y dylai pobl fod â'r hawl iddi mewn gwasanaethau asthma.
Mae Asthma UK Cymru yn galw ar Lywodraeth Cynulliad Cymru i gydweithio â ni i leihau derbyniadau brys diangen a chostus i'r ysbyty. Mae Asthma UK Cymru yn amcangyfrif y gellid osgoi 75% o dderbyniadau brys petai'r gwasanaethau cywir ar waith mewn gofal sylfaenol. Mae Asthma UK Cymru yn galw ar Lywodraeth Cynulliad Cymru i sicrhau bod gan bawb y mae asthma arno neu arni gynllun gweithredu asthma personol, gan fod ymchwil yn awgrymu bod pobl y mae ganddynt gynllun bedair gwaith yn llai tebygol o gael eu derbyn i'r ysbyty oherwydd eu hasthma.
Mae Asthma UK Cymru wedi croesawu'r Cyfarwyddebau ar Ddatblygu a Chomisiynu Gwasanaethau: Cyflyrau Anadlol Cronig fel cam cadarnhaol tuag at wella'r gofal dros bobl y mae asthma arnynt yng Nghymru ac mae'n mynnu y dylai Llywodraeth Cynulliad Cymru ddarparu adnoddau digonol a'u rhoi ar waith i sicrhau bod camau allweddol yn cael eu cyflawni'n llawn o fewn y dyddiadau targed. Gofynnir i wleidyddion lleol gysylltu â'u Bwrdd Iechyd Lleol i'w hannog i ymrwymo i'r Rhestr Wirio Gwasanaethau Asthma Da ac i roi blaenoriaeth i ofal asthma.
Tynnir sylw at argymhellion gan Asthma UK Cymru mewn derbyniad yn y Senedd rhwng 8 a.m. – 2 p.m. ar Ddiwrnod Asthma'r Byd a noddir gan Jenny Randerson, Aelod o'r Cynulliad, Llefarydd Iechyd Democratiaid Rhyddfrydol Cymru. Rydym yn annog Aelodau'r Cynulliad, pobl y mae asthma arnynt, rhieni plant y mae asthma arnynt a'r cyhoedd i ddod draw yn ystod y dydd a chefnogi'r ymgyrch trwy lofnodi ein Bwrdd Ymrwymo sy'n galw am well gwasanaethau i bobl y mae asthma arnynt yng Nghymru.
Am un o'r gloch bydd plant yn ymuno â ni o grwpiau blynyddoedd cynnar ac ysgolion cynradd lleol. Mae gofalwyr ac athrawon y plant hyn wedi elwa ar raglen addysg Yn effro i Asthma Asthma UK Cymru. Gyda'r nos bydd Cestyll Caernarfon a Chaerffili yn cael eu llifoleuo'n wyrdd golau - ein lliw ni - o 8 o'r gloch yr hwyr ymlaen.
Mae ymchwil yn awgrymu y gellid osgoi 75% o'r derbyniadau petai gwell camau osgoi'n cael eu cymryd i reoli'r cyflwr - ffigwr sy'n syfrdanol. Mae pobl y mae asthma arnynt felly'n cael eu hannog i gael adolygiad asthma gyda'u meddyg teulu bob 6-12 mis, ac i'w paratoi eu hunain ar gyfer yr adolygiad hwn trwy gysylltu ag Asthma UK Cymru a gofyn am y daflen Manteisio'n llawn ar eich adolygiad asthma. Mae hon yn cynnwys cwestiynau allweddol y gall pobl y mae asthma arnynt eu gofyn yn ystod adolygiad asthma, ac yn amlinellu beth i'w ddisgwyl gan feddyg teulu neu nyrs.
Meddai Janet Pardue-Wood, Cyfarwyddwr Cenedlaethol Asthma UK Cymru: ‘Mae'r ffigurau hyn yn creu darlun brawychus o effaith asthma ar fywydau pobl, ac yn awgrymu nad yw pawb yn cael yr un cyfle i gael at wasanaethau asthma hanfodol, fel nyrs asthma arbenigol yn lleol. Mae'r gwahaniaethau hyn yn gwbl annerbyniol ac rydym yn benderfynol y bydd ein hymgyrch yn bwydo gwybodaeth i'r Gwasanaethau Iechyd a Llywodraeth Cynulliad Cymru am gostau a chanlyniadau derbyniadau diangen i'r ysbyty. Pan nad yw asthma dan reolaeth effeithiol, gall ei effaith fod yn andwyol ac mewn rhai achosion yn farwol, a dyna pam y mae gwella gofal iechyd a lleihau'r derbyniadau i'r ysbyty i'r 260,000 o bobl ag asthma arnynt yng Nghymru yn un o nodau allweddol Asthma UK Cymru’.
Dyma'r hyn a ychwanegodd yr Athro Julian Tudor Hart, awdur blaenllaw ac adnabyddus The Inverse Care Law: ‘Uwchlaw popeth, yr angen mawr gydag asthma yw amser ymgynghori a pharhad, ac wrth gwrs ymhlith y cymunedau tlotaf sydd â’r cyfraddau morbidrwydd uchaf y mae'r wasgfa dynnaf ar amser ymgynghori.'
Notes to editors
- Am wybodaeth bellach cysylltwch â swyddfa cyfryngau Asthma UK ar 020 7786 4949 neu mediaoffice@asthma.org.uk.
- I archebu copi o Manteisio'n llawn ar eich adolygiad asthma, ffoniwch Asthma UK ar 08456 03 81 43.
- Asthma UK Cymru yw'r elusen sy'n gweithio i wella iechyd a lles y 260,000 o bobl yng Nghymru y mae asthma'n effeithio ar eu bywydau.
- Am wybodaeth ddiweddar am asthma, gwybodaeth a chyhoeddiadau, ewch i wefan Asthma UK yn asthma.org.uk.
- Cynorthwyir ymgyrch Asthma UK gan grant addysgol gan GlaxoSmithKline.
Ffeithiau am asthma
- Derbyniwyd 4416 o bobl ag asthma arnynt i'r ysbyty yng Nghymru yn 2006-7 (1,734 o blant) ac yng Nghymru y derbynnir y nifer fwyaf i bob pen o'r boblogaeth
- Mae asthma ar 1 o bob 10 (55,000) o blant yng Nghymru – ar gyfartaledd mae hynny'n dri phlentyn ym mhob ystafell ddosbarth.
- Asthma yw'r cyflwr hirdymor mwyaf cyffredin ymysg plant yn y DU.
- Mae hanner miliwn o blant yn y DU yn byw gyda symptomau asthma difrifol, fel prinder anadl diffygiol.
- Mae bron chwarter y plant y mae asthma arnynt yn colli chwe diwrnod neu ragor o'r ysgol bob blwyddyn o ganlyniad i'w cyflwr.
- Mae cyngor cyfrinachol am asthma ar gael trwy siarad â nyrs ar Linell gyngor Asthma UK, ar 08457 01 02 03 (Llun - Gwener, o 9.00 a.m. - 5.00 p.m.). Neu e-bostiwch nyrs asthma yn asthma.org.uk/adviceline.

Follow us on Twitter
Find us on Facebook