Diffyg ymwybyddiaeth yng Nghymru yn peryglu plant sydd ag asthma
04 May 2010
Mae data newydd syfrdanol* a gyhoeddir gan Asthma UK Cymru ar Ddiwrnod Asthma y Byd (4 Mai) yn awgrymu na fyddai 89% o oedolion yn gwbl hyderus beth i'w wneud pe bai plentyn yn eu gofal yn cael pwl o asthma.
Cred llawer o bobl fod asthma yn gyflwr diniwed, ond yng Nghymru mae dros 1,400 o blant sydd ag asthma yn cael eu derbyn i'r ysbyty bob blwyddyn. Asthma yw'r cyflwr hirdymor mwyaf cyffredin ymhlith plant yn y DU ac mae'n effeithio ar un o bob naw o blant yng Nghymru.
Amlygwyd y diffyg ymwybyddiaeth ymhlith athrawon ac aelodau eraill o staff ysgolion gan y cwest diweddar i farwolaeth Samuel Linton, 11 oed, o Stockport, a adawyd mewn coridor yn yr ysgol gan ei athrawon am sawl awr ar ôl cael pwl o asthma. Canfu'r cwest nad oedd staff yr ysgol wedi cael hyfforddiant hanfodol ar sut i adnabod pwl o asthma a beth i'w wneud mewn argyfwng.
Dywed Nia Jeffreys, Cyfarwyddwr Cenedlaethol Asthma UK Cymru: 'Mae'r diffyg gwybodaeth am asthma yng Nghymru yn syfrdanol ac yn beryglus ac ni all barhau. Mae angen i bob aelod o'r cyhoedd wybod arwyddion asthma dirywiol a pha gamau i'w cymryd os bydd rhywun yn cael pwl o asthma. Gall peidio ag ymateb mewn pryd arwain at farwolaethau diangen sy'n chwalu bywydau. Mae rhieni sydd wedi colli plant i asthma wedi dweud wrthym eu bod yn teimlo y gallai ymagwedd fwy rhagweithiol gan weithwyr iechyd proffesiynol fod wedi gwneud gwahaniaeth hollbwysig. Dyma pam ein bod yn gweithio'n agos gyda nifer o Aelodau Cynulliad allweddol o'r pedair plaid ar Ddiwrnod Asthma y Byd i ymdrechu i wella lefelau gofal asthma yng Nghymru.'
Argymhella Asthma UK y dylai unrhyw un sy'n ansicr am beth i'w wneud pan gaiff rhywun bwl o asthma gael Cerdyn Pwl o Asthma, i gefnogi plant ac oedolion sydd â'r cyflwr. Mae'r cerdyn maint waled yn dal gwybodaeth a all achub bywydau am y camau syml i'w cymryd a gellir ei gael yn asthma.org.uk, drwy ffonio 0800 121 62 55 neu anfon e-bost i info@asthma.org.uk
Gellid osgoi'r mwyafrif o byliau o asthma peryglus drwy reoli'n well asthma yn rheolaidd a defnyddio adnoddau fel cynlluniau gweithredu asthma personol. Cyngor Asthma UK i bawb sydd ag asthma yw y dylent lunio cynllun gweithredu, oherwydd bod pobl sydd â chynllun bedair gwaith yn llai tebygol o gael pwl o asthma sy'n gofyn am driniaeth ysbyty. Mae cynlluniau gweithredu asthma yn allweddol i helpu pobl i gadw rheolaeth ar eu hasthma. Ac yntau wedi'i gwblhau gan eich meddyg neu nyrs gyda chi, mae'n cynnwys manylion am eich meddyginiaethau asthma, sut i wybod pan fo'ch symptomau yn gwaethygu a beth i'w wneud, gan gynnwys os cewch bwl o asthma. Yng Nghymru, dylai fod gan bob claf sydd â chyflwr anadlol cronig, gan gynnwys asthma, gynlluniau gofal unigol ar waith. Cewch gynlluniau gweithredu o'ch meddygfa neu gan Asthma UK.
Mae Diwrnod Asthma y Byd yn cyd-daro ag wythnos codi arian flynyddol Asthma UK, Rhoi Amlygrwydd i Asthma, a gynhelir o 1 i 9 Mai. Eleni, arweinir yr wythnos gan DJ Heart Toby Anstis ac anogir pobl i godi arian i alluogi Asthma UK i ariannu ymchwil a fydd yn arwain at driniaethau newydd i oedolion a phlant sydd ag asthma a rhoi cymorth a chyngor i dros 314,000 o bobl yng Nghymru sydd ag asthma. Anogir cefnogwyr i helpu drwy gael eu noddi i wisgo wig lliw leim am y diwrnod, gwerthu cacennau eisin leim yn y swyddfa neu gynnal noson garioci gyda ffrindiau fel rhan o'r Big Sing Song a gynhelir ledled y DU ac a drefnir gan Ddiwrnod Asthma y Byd.
Notes to editors
*O sampl gynrychioliadol o 2,221 o bobl ledled y DU mewn arolwg gan YouGov Ccc ym mis Ebrill 2010
Ffeithiau am asthma
- Mae gan 1.1m o blant yn y DU asthma
- Mae mwy na 27,000 o blant sy'n 14 oed neu'n iau yn cael eu derbyn i'r ysbyty bob blwyddyn o ganlyniad i byliau o asthma
- Caiff 1 o bob 8 o blant o dan 15 oed byliau o asthma sydd mor ddifrifol fel na allant siarad
- Gellid osgoi nifer y bobl a dderbynnir i'r ysbyty a nifer y marwolaethau o ganlyniad i asthma pe bai rhieni, gofalwyr a'r plant eu hunain yn gwybod sut i reoli asthma yn well o ddydd i ddydd
- Caiff tua 10% asthma mor ddifrifol ac anodd ei reoli fel na all unrhyw un o'r triniaethau a gynigir ar hyn o bryd ei reoli
Asthma UK
- I gael cardiau Pwl o Asthma am ddim a Chynlluniau Gweithredu Personol Asthma ffoniwch 0800 121 62 55 neu anfonwch e-bost i info@asthma.org.uk
- I ofyn am becyn codi arian neu becyn cyfryngau ewch i asthma.org.uk/limelight neu ffoniwch 0800 121 62 55. Mae'r pecyn cyfryngau ar gael yn ddwyieithog yn Gymraeg a Saesneg
- Asthma UK yw'r elusen sy'n ymroddedig i wella iechyd a lles y 5.4 miliwn o bobl yn y DU y mae asthma yn effeithio ar eu bywydau, gan gynnwys 314,000 o bobl yng Nghymru

Follow us on Twitter
Find us on Facebook