Media Release
‘Mae llygredd traffig yn ein mygu', meddai dros dri o bob pump o bobl ag asthma arnyn nhw

21 September 2007
Wrth i Gaerdydd baratoi ar gyfer y digwyddiad blynyddol ‘Yn y dref, heb eich car!’ mae ymchwil barn a ryddhawyd heddiw gan Asthma UK Cymru yn dangos bod llygredd traffig yn un o'r sbardunau asthma y mae pobl y mae asthma arnynt ar draws Cymru yn sôn amdanynt fwyaf. Mae dros dri o bob pump ohonynt yn honni ei fod yn gwneud iddynt ymladd am eu hanadl.
Mae cyfraddau asthma yng Nghymru ymhlith yr uchaf yn y byd, gydag un oedolyn ym mhob 12 ac un plentyn o bob deg – neu dri o blant ym mhob ystafell ddosbarth - yn dioddef gyda'r cyflwr.
Meddai Janet Pardue-Wood, Cyfarwyddwr Cenedlaethol Asthma UK Cymru: ‘Mae'r ymchwil yn cadarnhau bod llygredd traffig yn fygythiad gwirioneddol i bobl y mae asthma arnynt, ei fod yn achosi symptomau i 65% ohonynt, gan gynnwys pyliau o besychu a phrinder anadl, ac yn rhwystro llawer rhag cerdded neu siopa mewn ardaloedd lle mae llawer o draffig.’
Mae ymchwil barn diweddaraf Asthma UK Cymru hefyd yn datgelu:
Mae cyhoeddi'r ymchwil barn hwn yn cyd-daro â diwrnod Caerdydd ‘Yn y dref, heb fy nghar!’ y dydd Sadwrn hwn, 22 Medi, sy'n rhan o ymgyrch ryngwladol i dynnu sylw at fanteision lleihau tagiant traffig a gwella ansawdd bywyd i oedolion a phlant mewn trefi a dinasoedd ar draws y byd. Bydd strydoedd ar gau i geir a lorïau, ac yn agor i bobl er mwyn iddynt fwynhau cerdded, seiclo, celfyddyd ac adloniant ar y stryd.
Meddai Janet hefyd: ‘Mae Asthma UK Cymru yn cymeradwyo'r fenter hon yn frwd. Mae'n rhoi rhyddid i bobl y mae asthma arnynt gerdded a siopa mewn strydoedd sydd fel arfer yn llawn tagfeydd traffig, heb ofni cael pwl o asthma.
‘Galwn ar Lywodraeth y Cynulliad i wrando ar farn pobl y mae asthma arnynt a pharhau i gymryd camau i leihau llygredd, annog tanwydd glanach a hyrwyddo defnyddio cerbydau sy'n gollwng ychydig o fygdarth neu ddim o gwbl.’

- Mae 84% o bobl ag asthma arnynt yng Nghymru yn dweud eu bod yn pryderu ynghylch yr effaith y bydd mwy o fygdarth o gerbydau yn ei chael ar eu hiechyd, ar iechyd eu teuluoedd ac ar iechyd eu plant yn y dyfodol.
- Mae 72% o bobl ag asthma arnynt yng Nghymru yn dweud y byddai cael rhagor o geir sy'n gollwng llai o fygdarth (fel ceir hybrid) yn gwella eu hasthma.
- Mae 61% o bobl ag asthma arnynt yng Nghymru yn teimlo nad yw'r Llywodraeth yn gwneud digon i leihau mygdarth traffig.
- Mae 38% o bobl ag asthma arnynt yng Nghymru yn dweud bod mygdarth traffig yn eu gwneud yn llai awyddus i gerdded/siopa mewn ardaloedd lle mae traffig trwm.
- Mae 32% o bobl ag asthma arnynt yng Nghymru yn dweud mai lleihad mewn llygredd yn yr aer yw'r un peth a fyddai'n gwneud y gwahaniaeth mwyaf i ansawdd eu bywyd o ran eu hasthma.
Mae cyhoeddi'r ymchwil barn hwn yn cyd-daro â diwrnod Caerdydd ‘Yn y dref, heb fy nghar!’ y dydd Sadwrn hwn, 22 Medi, sy'n rhan o ymgyrch ryngwladol i dynnu sylw at fanteision lleihau tagiant traffig a gwella ansawdd bywyd i oedolion a phlant mewn trefi a dinasoedd ar draws y byd. Bydd strydoedd ar gau i geir a lorïau, ac yn agor i bobl er mwyn iddynt fwynhau cerdded, seiclo, celfyddyd ac adloniant ar y stryd.
Meddai Janet hefyd: ‘Mae Asthma UK Cymru yn cymeradwyo'r fenter hon yn frwd. Mae'n rhoi rhyddid i bobl y mae asthma arnynt gerdded a siopa mewn strydoedd sydd fel arfer yn llawn tagfeydd traffig, heb ofni cael pwl o asthma.
‘Galwn ar Lywodraeth y Cynulliad i wrando ar farn pobl y mae asthma arnynt a pharhau i gymryd camau i leihau llygredd, annog tanwydd glanach a hyrwyddo defnyddio cerbydau sy'n gollwng ychydig o fygdarth neu ddim o gwbl.’
Notes to editors
1. Am wybodaeth bellach cysylltwch â swyddfa cyfryngau Asthma UK ar 020 7786 4949 neu mediaoffice@asthma.org.uk neu Swyddfa Cymru ar 02920 435400.
2. Asthma UK yw'r elusen sy'n gweithio i wella iechyd a lles y 5.2 miliwn o bobl yn y DU y mae asthma'n effeithio ar eu bywydau. Mae Asthma UK Cymru yn gweithio i wella iechyd a lles y 260,000 o bobl yng Nghymru y mae asthma'n effeithio ar eu bywydau.
3. Am y newyddion diweddaraf am asthma, gwybodaeth a chyhoeddiadau, ewch i wefan Asthma UK asthma.org.uk.
4. Kickasthma.org.uk yw gwefan ryngweithiol Asthma UK i blant a phobl ifanc ag asthma arnynt. Mae'r wefan yn cynnig cymorth a chyngor ac yn cynnwys geiriadur asthma, tudalen broblemau, gemau a bwrdd negeseuon.
5. Am gyngor annibynnol a chyfrinachol am asthma, ffoniwch Linell gyngor Asthma UK, sydd â nyrsys asthma arbenigol yn gweithio arni. Mae'r llinell ar agor yn ystod yr wythnos o 9am hyd 5pm ar 08457 01 02 03. Neu e-bostiwch nyrs asthma yn asthma.org.uk/adviceline.

Follow us on Twitter
Find us on Facebook