Media Release
Pobl ag asthma arnynt yng Nghymru sy'n pryderu fwyaf am feddyginiaeth steroid

05 July 2007
Mae arolwg gan Asthma UK Cymru yn dangos bod dros hanner (54%) y bobl ag asthma arnynt sy'n cael presgripsiwn am feddyginiaeth steroid yng Nghymru yn bryderus 'iawn’ neu'n ‘weddol’ bryderus am sgil-effeithiau. Gyda'i gilydd y Cymry yw'r genedl sydd â'r pryderon mwyaf.
Y genedl leiaf tebygol o fod â phryderon mawr ynghylch sgil-effeithiau steroidau yw'r Alban gyda 45%. Cafwyd hefyd mai pobl ag asthma arnynt yng Ngogledd Iwerddon yw'r lleiaf tebygol o ganiatáu i'w pryderon effeithio ar eu defnydd o steroidau, ac mai pobl yn Lloegr yw'r mwyaf tebygol o beidio â dilyn cyngor.
O'r 125,000 o bobl y mae asthma arnynt sy'n cael steroidau ar bresgripsiwn yng Nghymru ac sy'n pryderu am sgil-effeithiau, mae 19% yn peidio â chymryd eu steroidau oherwydd eu pryderon a 12% yn eu cymryd ddim ond pan fydd ganddynt symptomau.
Yn y DU roedd merched yn fwy tebygol na dynion o roi gwybod am eu pryderon, tra bod dynion yn fwy tebygol o ganiatáu i'w pryderon effeithio ar eu defnydd o feddyginiaeth steroid. Mynegir y pryderon mwyaf gan y grŵp oedran 45-54 gydag ychydig dros hanner (54%) y grŵp hwn yn dweud eu bod yn bryderus 'iawn' neu'n 'weddol' bryderus.
Mae cleifion yn aml yn pryderu am risg datblygu osteoporosis a achosir gan gymryd dosys uchel o steroidau dros gyfnod hir. Er hynny, mae'n bwysig pwyso risg yn erbyn budd a gwyddom mai steroidau a anedlir yw'r cyffur atal mwyaf effeithiol i oedolion a phlant o ran cael rheolaeth dda ar asthma.
Fel rheol, dosys isel a gymerir o foddion steroid a anedlir ac mae'r feddyginiaeth yn mynd yn syth i'r llwybr anadlu ac felly ychydig iawn sy'n cael ei gymryd i mewn i weddill y corff. Gall y rhai sy'n cael sgil-effeithiau fel crygni llais, dolur gwddf neu haint yn y geg helpu i'w hosgoi trwy gymryd eu hanadlydd trwy ddyfais arafu, glanhau eu dannedd a golchi eu ceg wedyn.
Meddai'r Athro Martyn Partridge, Prif Gynghorydd Meddygol i Asthma UK: ‘Mae cyfathrebu da rhwng y meddyg a'r claf yn rhan hanfodol o reoli asthma ac mae'n hawdd deall na fydd cleifion yn cymryd moddion y maent yn pryderu yn eu cylch. Dylai pobl ag asthma arnyn nhw deimlo'n gwbl rydd i holi meddygon am eu presgripsiynau a dylent ddisgwyl cael cais i fynegi unrhyw bryderon fel bod trafodaeth gytbwys yn gallu dilyn am y ffeithiau. Ond unwaith y bydd eu meddyliau'n dawel, dylai pobl y mae asthma arnynt wneud eu gorau i gymryd moddion presgripsiwn oherwydd gall peidio â gwneud gael effaith ddifrifol ar eu hiechyd a'u lles.’
Meddai Janet Pardue-Wood, Cyfarwyddwr Cenedlaethol Asthma UK Cymru: ‘Mae meddyginiaeth effeithiol ar gael i'r rhan fwyaf o bobl y mae asthma arnynt. Ond mae data Asthma UK Cymru yn tanlinellu nad yw tua 1 o bob 3 (36%) o bobl ag asthma arnynt yng Nghymru wedi cael trafodaeth lawn â doctor neu nyrs am y moddion asthma sydd orau iddynt, gan gynnwys trafodaeth am sgil-effeithiau. Mae'r canlyniadau hyn yn tynnu sylw at yr angen i ddeall y pryderon sydd gan bobl y mae asthma arnynt ynglŷn â'u triniaeth. Gall trafodaethau gwybodus arwain at well rheolaeth ar asthma a lleihau nifer y derbyniadau brys i'r ysbyty.’
Gall pobl y mae asthma arnynt sy'n pryderu am sgil-effeithiau steroidau ffonio llinell gyngor Asthma UK ar 08457 01 02 03. Mae hwn yn wasanaeth cyfrinachol gan nyrsys asthma wedi'u hyfforddi.

Follow us on Twitter
Find us on Facebook