Media Release
Siaradwch ag arbenigwr asthma yn arddangosfa'r wythnos byw'n iach

08 October 2007
Bydd Asthma UK Cymru yn cynnig cyfle i gynrychiolwyr yn arddangosfa Wythnos Genedlaethol Byw'n Iach i glywed y cyngor gorau gan arbenigwr asthma ar reoli'r cyflwr. Bydd cyfle hefyd i gwrdd â David Roberts MBE, y pencampwr ysbrydoledig a enillodd fedal aur yn y gemau Paralympaidd.
Gan Gymru y mae un o'r cyfraddau asthma uchaf yn y byd gan fod un oedolyn o bob deuddeg ac un plentyn o bob deg yn byw gyda'r cyflwr. Bydd aelodau o'r cyhoedd yn cael cyfle i gael gwybodaeth am asthma yn Gymraeg a Saesneg yn ystod yr arddangosfa ddeuddydd ar 9 a 10 Hydref, yn ogystal â gofyn am gyngor gan nyrs asthma arbenigol a siarad â David Roberts MBE am y ffordd y mae e'n rheoli ei asthma. Ddydd Mercher, 10 Hydref, bydd arbenigwr Asthma wrth law hefyd i gynnig profion anterth llif yn y fan a'r lle, i fesur gallu'r ysgyfaint.
Meddai Janet Pardue-Wood, Cyfarwyddwr Cenedlaethol Asthma UK Cymru: ‘Mae ymchwil a wnaeth Asthma UK Cymru wedi dangos nad yw cynifer â 260,000 o bobl ag asthma arnynt yng Nghymru yn cyrraedd targedau rhyngwladol ar ganlyniadau triniaeth. Rydym yn pwyso ar unrhyw un sy'n ansicr ynglŷn â'u moddion neu sydd ag unrhyw gwestiynau am asthma i ddod â siarad â ni yn y digwyddiad er mwyn i ni allu helpu rhagor o bobl i reoli eu hasthma'n effeithiol a gwella ansawdd eu bywyd.’
Mae arddangosfa Wythnos Genedlaethol Byw'n Iach yn cael ei chynnal yn Senedd y Cynulliad Cenedlaethol ac yn cael ei chroesawu gan Grŵp Hollbleidiol y Cynulliad ar Fyw'n Iach. Mae'r Grŵp hwn yn cynnwys Aelodau o'r Cynulliad Cenedlaethol a mudiadau gwirfoddol a'i nod yw helpu pobl i gael ffordd o fyw sy'n fwy egnïol ac yn rhoi mwy o foddhad.

Notes to editors
Nodiadau i Olygyddion
1. Am wybodaeth bellach cysylltwch â Swyddfa Cyfryngau Asthma UK ar 020 7786 4949 neu mediaoffice@asthma.org.uk neu Swyddfa Cymru ar 02920 435400.
2. Asthma UK yw'r elusen sy'n gweithio i wella iechyd a lles y 5.2 miliwn o bobl yn y DU y mae asthma'n effeithio ar eu bywydau. Mae Asthma UK Cymru yn gweithio i wella iechyd a lles y 260,000 o bobl yng Nghymru y mae asthma'n effeithio ar eu bywydau.
3. Am y newyddion diweddaraf am asthma, gwybodaeth a chyhoeddiadau, ewch i wefan Asthma UK asthma.org.uk.
4. Kickasthma.org.uk yw gwefan ryngweithiol Asthma UK i blant a phobl ifanc ag asthma arnynt. Mae'r wefan yn cynnig cymorth a chyngor ac yn cynnwys geiriadur asthma, tudalen broblemau, gemau a bwrdd negeseuon.
5. Am gyngor annibynnol a chyfrinachol am asthma, ffoniwch Linell gyngor Asthma UK, sydd â nyrsys asthma arbenigol yn gweithio arni. Mae'r llinell ar agor yn ystod yr wythnos o 9am hyd 5pm ar 08457 01 02 03. Neu e-bostiwch nyrs asthma yn asthma.org.uk/adviceline.

Follow us on Twitter
Find us on Facebook