Media Release

Sylwadau Asthma UK Cymru ar y penderfyniad gan y Sefydliad Cenedlaethol dros Iechyd a Rhagoriaeth Glinigol i gymeradwyo'r defnydd o'r cyffur Xolair
28 November 2007

Meddai Janet Pardue-Wood, Cyfarwyddwr Cenedlaethol Asthma UK Cymru:

‘Rydym wrth ein bodd â phenderfyniad NICE, sy'n fuddugoliaeth i bobl sydd ag asthma difrifol, alergaidd yng Nghymru, ac a frwydrodd i gael y cyffur newydd hwn sy'n gweddnewid bywydau.

Mae Asthma UK Cymru wedi ymgyrchu'n galed i'r cyffur fod ar gael ar y GIG, ond ni fyddem wedi cael y canlyniad hwn heb ymroddiad pobl y mae asthma arnynt a meddygon a gefnogodd ein hachos.

‘Nid yw'r triniaethau asthma presennol yn gweithio i tua hanner miliwn o bobl ar draws y DU sy'n byw gydag asthma anodd ei reoli. Bydd Xolair yn addas i nifer fechan o'r bobl hyn a bydd yn llythrennol yn gweddnewid eu bywydau. Bydd yn rhoi cyfle iddynt wneud y gweithgareddau pob dydd sydd bob amser wedi bod yn ymdrech, neu weithiau'n amhosibl, fel mynd i'r gwaith, mynd ar wyliau, cael noson allan neu wneud rhywbeth mor syml â cherdded i'r siopau.

‘Mae'n gwbl wir y gall y driniaeth hon olygu'r gwahaniaeth rhwng bywyd gwerth ei fyw a bywyd o ddim ansawdd o gwbl.’

Carol Trudgill oedd y person cyntaf yn ne Cymru i gael Xolair. Meddai:


‘Byddwn i'n arfer teimlo tua chan mlwydd oed; roedd dim ond codi o'r gadair yn frwydr, roedd fy asennau'n brifo wrth imi ymladd am fy ngwynt trwy'r amser ac ro'n i bob amser yn ofni na fyddai fy ysgyfaint byth eto'n llenwi â digon o awyr. Ro'n i hefyd i mewn ac allan o'r ysbyty, gan gynnwys gofal dwys, ac yn ofni trwy'r amser y byddai'r pwl nesaf o asthma yn fy lladd.

‘Ro'n i'n dioddef o iselder ac yn rhy sâl i weithio. Asthma oedd yn rheoli fy mywyd i a bywyd fy nheulu. Ond nawr mae popeth yn wahanol – dw i'n gallu mynd ar fy ngwyliau, ymarfer a gweithio. Mae Xolair yn fendith - dw i wedi cael fy mywyd yn ôl.’

Contact:

Media Office
020 7786 4949
mediaoffice@asthma.org.uk

Notes to editors

Cymeradwywyd defnyddio Xolair yn yr Alban ar 8 Hydref 2007 a bydd ar gael i bobl y mae asthma arnynt yng Nghymru a Lloegr o fewn y tri mis nesaf. Disgwylir cadarnhad y bydd y driniaeth ar gael yng Ngogledd Iwerddon y mis nesaf (Rhagfyr 2007).