Asthma UK Cymru yn dathlu dau gam ymlaen
02 April 2007
Mae Asthma UK Cymru wedi croesawu cyflwyno presgripsiynau am ddim yng Nghymru, ynghyd â'r gwaharddiad ar ysmygu mewn mannau cyhoeddus yno. Cyflwynwyd presgripsiynau am ddim i bawb ar 1 Ebrill, a daeth y gwaharddiad ar ysmygu i rym ar 2 Ebrill.
Cymru yw'r wlad gyntaf yn y DU i gyflwyno presgripsiynau am ddim. Mae Asthma UK Cymru yn credu bod y polisi hwn yn gam hanfodol ymlaen i wella mynediad at ofal iechyd i bobl sydd ag asthma - cyflwr sy'n ddifrifol ac yn gyffredin, ond cyflwr y mae modd ei reoli. Gobeithir hefyd y bydd y symudiad yn rhoi pwysau ar weddill y DU i ddilyn.
Meddai Nia Jeffreys, Cyfarwyddwr Cenedlaethol Asthma UK Cymru: ‘Bydd presgripsiynau am ddim yn newid bywyd pobl y mae asthma arnynt yng Nghymru. Cyn hyn, doedd llawer ohonynt ddim yn gallu fforddio eu presgripsiynau. Bydd y newid hanfodol hwn mewn polisi yn gwneud yn si_r bod y bobl hyn yn cael mynediad teg a chyfartal at y moddion y mae eu gwir angen arnynt.’
Meddai Nia am y gwaharddiad ar ysmygu: ‘I bobl y mae asthma arnynt gall effeithiau ysmygu fod yn farwol. Mae 79% o'r bobl ag asthma arnynt yng Nghymru yn dweud wrthym fod mwg sigaréts yn gwneud eu symptomau yn waeth ac mae 14% o'r gweithwyr amser-llawn a rhan-amser sydd ag asthma arnyn nhw wedi dweud wrthym eu bod yn agored i fwg sigaréts pobl eraill yn y gwaith.’
‘Mae'n wir dweud y bydd y ddeddfwriaeth yn newid bywydau'r bobl hyn. Bydd yn gwneud yn si_r eu bod yn cael eu hamddiffyn rhag mwg ail-law yn y gweithle ac yn caniatáu iddynt gymdeithasu mewn mannau cyhoeddus amgaeedig heb ofni pwl marwol o asthma.’
Mae ymchwil hefyd yn awgrymu efallai bod ysmygu nid yn unig yn sbarduno asthma ond y gall mewn gwirionedd achosi'r cyflwr. Mae Asthma UK Cymru ar hyn o bryd yn ariannu prosiect ymchwil ym Mhrifysgol Cymru yn Abertawe o dan arweiniad Dr Catherine Thornton, sy'n ceisio darganfod pam y mae plant merched sy'n ysmygu yn ystod beichiogrwydd yn fwy tebygol o ddatblygu asthma ac alergeddau.
Gan Gymru y mae un o'r cyfraddau asthma uchaf yn y byd gan fod y cyflwr yn effeithio ar un oedolyn o bob deuddeg ac un plentyn o bob deg.


Follow us on Twitter
Find us on Facebook